'Synnwyr cyffredin' i'r heddlu fanteisio ar wirfodolwyr
Mae Heddlu Dyfed-Powys eisiau i wirfoddolwyr eu cynorthwyo i ateb ymholiadau gan y cyhoedd mewn gorsafoedd gwledig.
Fe fyddai'r gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion er mwyn cyflawni tasgau fel ateb y ffôn, monitro camerâu cylch cyfyng ac ymdrin ag eiddo coll.
Ond mae'r llu'n pwysleisio na fyddai gwirfoddolwyr yn cymryd lle swyddogion proffesiynol.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Robyn Mason y byddai'n "ddwl" i beidio manteisio ar ddoniau gwirfoddolwyr.