Cael gwerslyfrau Cymraeg yn 'hynod bwysig'

Mae diffyg adnoddau i ddisgyblion yng Nghymru yn destun "pryder mawr", yn ôl pwyllgor o Aelodau Cynulliad.

Yn ôl Megan Barett o Ysgol Caerffili, mae'n "hynod o bwysig" bod disgyblion yn derbyn adnoddau addas yn y Gymraeg a'r Saesneg mewn da bryd er mwyn astudio.

Astudiodd Gymraeg, llenyddiaeth Saesneg ac astudiaethau crefyddol ar gyfer ei harholiadau safon uwch, ac mae hi'n un o nifer o ddisgyblion sydd wedi cael trafferth cael ei gwerslyfrau yn y Gymraeg.

Mae'r pwyllgor wedi cynnig 15 argymhelliad ac mae Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru wedi dweud eu bod yn "ystyried argymhellion y pwyllgor yn ofalus".