Guto Bebb: 'Sefyllfa'r blaid Geidwadol yn gwbwl rhanedig'
Bron i wythnos ar ôl ymddiswyddo o'i swydd fel gweinidog amddiffyn, Mae AS Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb wedi dweud nad yw'n difaru ymddiswyddo, wrth iddo obeithio am "gytundeb Brexit lle nad oes angen etholiad na refferendwm arall".
Fe wnaeth Mr Bebb ymddiswyddo o'i swydd fel gweinidog amddiffyn nos Lun ar ôl pleidleisio gyda'r gwrthbleidiau ar gymal o fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd Mr Bebb wedi pleidleisio yn erbyn gwelliant gafodd ei gynnig gan aelodau sydd o blaid Brexit caled.
Roedd Mr Bebb yn siarad ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar BBC Radio Cymru.