'Degawdau i adfer tir' wedi tân mynydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio y gallai hi gymryd "degawdau" i adfer y tir ble mae tân wedi bod yn llosgi yn Sir Ddinbych.
Mae ardal Llantysilio ger Llangollen yn rhan o safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac yn gynefin i adar prin fel y grugiar ddu sy'n nythu yno.
"Dan ni'n pryderu yn fawr iawn am hyn, oherwydd gallai gymryd degawdau i lystyfiant ddod yn ôl," meddai Nick Thomas o CNC.
"Mae'n llosgi reit drwy'r mawn, ac mae'r mawn yn ddwfn iawn, ac mae'r hadau ag ati sydd yn y mawn i gyd yn mynd i gael ei ddinistrio gan y tân."
Adroddiad Sion Pennar.