'Twf aruthrol' yn y diwydiant teledu
Mae'r twf yn y diwydiant teledu yng Nghymru wedi bod yn aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl un cynhyrchydd.
Mae Hannah Thomas yn gweithio i gwmni annibynol Seven Screen yng Nghaerdydd.
Dywedodd fod mwy o gwmnïau cynhyrchu bellach yn manteisio ar adnoddau ac ar leoliadau yng Nghymru.
Mae hi'n credu hefyd fod cynyrchiadau tebyg i Craith/Hidden, sy'n cael ei werthu fel cynhyrchiad dwyieithog, yn ffordd o ymestyn cyrhaeddiad y Gymraeg tu allan i Gymru.