'Oes aur' dramâu yng Nghymru
Roedd dewis Caerdydd fel y lleoliad i adfywio cyfres Doctor Who yn 2005 wedi cyfrannu at lwyddiant cyfredol y diwydiant teledu, meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies.
"Dwi'n meddwl bod hwn yn oes aur. Os 'dach chi'n edrych ar yr arlwy drama ar hyn o bryd Hidden, Keeping Faith, Requiem... does 'na 'run cyfnod yn hanes datblygiad y cyfryngau yng Nghymru, lle mae 'na gymaint o brosiectau mawr ac uchelgeisiol yn digwydd."
Dywedodd ei fod am weld Cymru fel un o'r cenhedloedd mwyaf creadigol yn Ewrop ac ychwanegodd bod yn rhaid sicrhau bod y sgiliau a'r talentau ar gael yma.
"Dwi ishe gweld Cymru ar y sgrin. Dwi'n meddwl bod gyda ni actorion gwych, sgwenwyr gwych a dwi ishe gweld eu hymdrechion nhw o ran adlewyrchu Cymru gyfoes yn cael eu mwynhau ymhob cwr o'r byd," meddai.