Digon o waith am 'genedlaethau' yn chwarel y Penrhyn

Mae pennaeth chwarel y Penrhyn ym Methesda'n dweud y gallai fod digon o waith yno am "genedlaethau" eto.

Mae gan gwmni Welsh Slate ganiatad i ymestyn y chwarel am y degawd nesaf ac yn ôl Mark Hodgkinson mae digon o lechfaen yno ymhell y tu hwnt i hynny.

Yn y cyfamser, mae diwydiant mwy diweddar yn tyfu yn yr ardal hefyd, gyda chwmni Zip World yn gobeithio ehangu eu darpariaeth.

Dyma adroddiad Dafydd Evans.