Gobaith gweld Taylor Wimpey yn ail-ddechrau adeiladu ar stad Glasdir

Mae'n ymddangos bod cwmni Taylor Wimpey yn bwriadu ail-ddechrau adeiladu ar stad tai Glasdir yn Rhuthun.

Yn 2012, cafodd 120 o dai ar y stad newydd sbon eu difrodi gan lifogydd ac mae'r gwaith adeiladu yno wedi dod i stop byth ers hynny.

Mae'r segurdod ar ran y datblygwyr wedi bod yn destun beirniadaeth yn lleol - yn enwedig yn sgil gwelliannau i'r amddiffynfeydd llifogydd a'r hyder y dangosodd y cyngor sir yn yr ardal drwy agor campws ysgol newydd gerllaw.

Mae Taylor Wimpey yn cynnal rhagymgynghoriad ac yn gobeithio ail-afael yn y gwaith erbyn diwedd 2018.

Fodd bynnag, nid yw Taylor Wimpey wedi ymateb i gais y BBC i gadarnhau eu cynlluniau.