Pwy sy'n cofio... Sioni Winwns?

Sioni Winwns oedd yr enw a roddwyd i werthwyr nionod fyddai'n dod i Brydain o Lydaw. Roedd y gwerthwyr yn olygfa gyffredin mewn nifer o drefi yng Nghymru mor hwyr â'r 1970'au.

Fel arfer byddai'r gwerthwyr yn cyrraedd Prydain tua diwedd mis Gorffennaf ac yn aros i werthu nionod tan tua mis Rhagfyr.

Roedd nifer o'r gwerthwyr yn siarad Llydaweg, ac fe ddysgodd rhai Gymraeg hefyd fel gwelwn yn y clip fideo hwn o raglen 'Heddiw'.

Doedd bywyd y gwerthwyr ddim yn hawdd. Roedd yn waith blinedig a gofyn bod i ffwrdd o gartref am fisoedd. Ond fe ddaethon nhw yn rhan o fywyd rhai trefi yng Nghymru a Lloegr, ac mae ambell 'Sioni' yn dal i wneud y siwrne o Lydaw hyd heddiw i werthu mewn ffeiriau a marchnadoedd.

Hefyd o ddiddordeb: