Ombwdsmon Cymru, Nick Bennett eisiau 'gallu gwneud mwy'

Fe gafodd mwy o gwynion eu gwneud am wasanaethau iechyd yng Nghymru y llynedd nag erioed o'r blaen.

Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett bod y "cynnydd graddol" yn nifer y cwynion yn "bryder gwirioneddol" a bod 41% ohonyn nhw'n ymwneud ag iechyd.

Daeth 927 o gwynion i law'r ombwdsmon am fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau iechyd, meddygon teulu a deintyddion yn 2017-18 - cynnydd o 7% o'r flwyddyn flaenorol.

Ychwanegodd Mr Bennett ei fod yn gobeithio gallu "gwneud mwy i wella'r ffordd mae cyrff yn delio a chwynion yng Nghymru".