Cynnig help trwy brawf mêr esgyrn

Aeth degau o bobl i ddigwyddiad yng Nghasnewydd ddydd Sul i geisio dod o hyd i fwy o roddwyr mêr esgyrn.

Teulu Marley Nicholls, bachgen chwech oed o'r ardal, drefnodd y digwyddiad.

Cafodd Marley ddiagnosis o anaemia aplastig, afiechyd sy'n atal y corff rhag cynhyrchu digon o gelloedd gwaed, ac mae angen trawsblaniad mêr esgyrn arno.

Tra'n gobeithio y bydd yr ymdrechion i ddod o hyd i rywun addas i Marley yn llwyddiannus, roedd y digwyddiad yn gyfle i godi ymwybyddiaeth gyffredinol am yr angen am roddwyr mêr esgyrn.

Ymhlith y bobl aeth yno i gael eu profi oedd Sarah Rookes o Gasnewydd.