Aberystwyth: 'Angen gadael i'r heddlu wneud eu gwaith'
Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud y bydd archwiliad manwl yn dechrau ddydd Mawrth y tu mewn i westy yn Aberystwyth gafodd ei ddinistrio gan dân.
Fe gafodd diffoddwyr tân eu galw i westy Tŷ Belgrave yn ystod oriau mân bore 25 Gorffennaf.
Cafodd 12 o bobl oedd yn yr adeilad eu hachub yn ddiogel ond mae un dyn - sy'n dod o Lithwania yn wreiddiol - yn dal ar goll.
Dywedodd y cynghorydd Ceredig Davies, sy'n cynrychioli Canol Aberystwyth ar Gyngor Ceredigion, bod cau'r promenâd yn cael effaith ar y dref, ond bod angen rhoi amser i'r heddlu "wneud eu gwaith".