Natasha Harding yn gobeithio 'ysbrydoli' Cymry ifanc
Mae chwaraewr canol cae Cymru, Natasha Harding yn gobeithio bod llwyddiant y tîm rhyngwladol wedi ysbrydoli pobl i chwarae a chefnogi'r gamp.
Dywedodd Harding fod y gêm menywod wedi bod yn "araf" yn datblygu yng Nghymru, ond fod pethau wedi newid gyda phenodiad Jayne Ludlow fel rheolwr.
"Mae Jayne wedi dod i mewn nawr, a gobeithio ein bod ni wedi ysbrydoli pobl i chwarae pêl-droed ac i gefnogi pêl-droed."
Ychwanegodd bod y tîm yn gobeithio efelychu'r effaith gafodd tîm y dynion 'nôl yn Euro 2016.