'O'dd e'n sicr bod e moyn rhoi ei organau'

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i siarad ar Wythnos Rhoi Organau wrth i ffigyrau ddangos nad yw teuluoedd yn aml yn gwybod am ddymuniadau eu hanwyliaid.

Dywedodd llefarydd y gallai anwybodaeth o'r fath rwystro trawsblaniadau sy'n achub bywyd.

Mae mam Conner Marshall o'r Barri, dyn 18 oed a fu farw yn dilyn ymosodiad mewn parc carafanau ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015, yn dweud ei bod yn falch bod hi wedi siarad â'i mab am roi organau.

Dywedodd Nadine Marshall bod ei mab "moyn cael ei ystyried fel rhywun oedd yn gallu rhoi organau".