Ben Davies yn edrych 'mlaen at herio Gweriniaeth Iwerddon

Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch yng nghystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd nos Iau wrth iddyn nhw groesawu Gweriniaeth Iwerddon i Gaerdydd.

Fe fydd taith i Ddenmarc yn dilyn hynny, er bod ansicrwydd a fydd enwau mawr gwrthwynebwyr Cymru ar gael oherwydd ffrae rhwng y garfan a'r gymdeithas bêl-droed.

Amddiffynnwr Tottenham Hotspur, Ben Davies, fu'n sgwrsio â BBC Cymru ddydd Llun gan drafod y gêm nos Iau, y gystadleuaeth newydd a'r hyn mae'r rheolwr Ryan Giggs yn ei gyfrannu i'r garfan.