Elin Fflur: 'Angen mwy o drafod am feichiogi ac IVF'

Does dim digon o drafod ar drafferthion beichiogi a'r hyn all triniaeth ffrwythloni IVF ei gynnig, yn ôl y gantores a'r gyflwynwraig Elin Fflur.

Mae'n dweud mai colli babi wythnosau ar ôl iddi feichiogi ydi'r profiad anoddaf iddi ei wynebu erioed.

Nawr mae'n gobeithio y bydd rhaglen deledu sy'n dweud yr hanes yn gymorth i eraill sydd mewn sefyllfa debyg.

Bu'n siarad â gohebydd Newyddion 9, Dafydd Gwynn.