'Miloedd ar filoedd o bysgod wedi marw' achos llygredd
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio ar ôl achos o lygredd yn Afon Clywedog ger Wrecsam.
Cafodd tua naw cilomedr o'r afon ei heffeithio, ac yn ôl Rheolwr Gweithrediadau CNC, Nick Thomas mae "miloedd ar filoedd o bysgod wedi marw".
Ychwanegodd Mr Thomas eu bod wedi darganfod 2,500 o bysgod wedi marw wrth ymchwilio 1km o'r afon ddydd Mercher.