Yr Eglwys yng Nghymru'n paratoi i drafod priodasau hoyw
Wrth i'r Eglwys yng Nghymru baratoi i drafod priodasau hoyw am y tro cyntaf ers tair blynedd, mae Esgob Bangor wedi dweud wrth Newyddion 9 ei fod yn gobeithio y bydd hynny yn y pendraw yn cael ei ganiatáu.
Bydd corff llywodraethol yr eglwys yn trafod y mater yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Mercher, ac yn pleidleisio ar gynnig sy'n dweud bod angen darparu'n ffurfiol ar gyfer cyplau hoyw.
Esgobion wedyn fydd yn gorfod penderfynu sut i weithredu canlyniad y bleidlais.
Dyma adroddiad Ellis Roberts.