Elusen yn poeni am effaith siediau ieir ar Bowys
Mae angen rhoi'r gorau i edrych ar bob cais am siediau ieir yn unigol, ym marn Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig.
Dywedodd yr elusen, sy'n ymgyrchu dros warchod tirwedd a byd natur ardaloedd gwledig, wrth Newyddion 9 fod gormod o unedau wedi cael eu codi ym Mhowys.
Mae ffigyrau'r Cyngor Sir yn dangos mai dim ond tri chais o'r fath sydd wedi ei wrthod mewn dwy flynedd, gyda dros 100 wedi eu cymeradwyo.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cynnal arolwg o'u rheolaeth ar y llygredd syn deillio o ffermio dwys".
Mari Grug sydd â'r stori.