Datblygiad 'pwysig iawn' i Galeri Caernarfon
Bydd estyniad newydd canolfan greadigol Caernarfon, Galeri, yn agor yn swyddogol ddydd Gwener.
Mae'r estyniad yn cynnwys dwy sgrîn sinema, derbynfa newydd, gofod arddangos ac ystafelloedd ar gyfer cynnal gweithdai celf.
I nodi'r achlysur, mae'r ganolfan yn cynnal sesiynau gyda'r actor Rhys Ifans ac yn dadorchuddio cerflun gan Llŷr Erddyn Davies y tu allan i'r adeilad.
Dywedodd prif weithredwr Galeri, Gwyn Roberts, bod yr estyniad newydd yn ddatblygiad "pwysig iawn" i'r ganolfan.