Ysgol Gymraeg y Ffin: Ceisio newid delwedd

Yn draddodiadol dyw Sir Fynwy ddim yn cael ei gysylltu â'r iaith Gymraeg, ond mae ymgyrch wedi dechrau i geisio tynnu sylw rhieni yn ne Sir Fynwy at fanteision addysg Gymraeg.

Agorodd Ysgol Gymraeg y Ffin 'nôl yn 2001 ac erbyn hyn mae tua 150 o ddisgyblion yno.

Er hyn, mae'r niferoedd sy'n ymuno â'r ysgol wedi bod yn disgyn yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae pennaeth yr ysgol, Mr Jamie Hallett, yn ffyddiog y bydd ymgyrchoedd fel hyn yn helpu newid y duedd yma.

"Mae'n gyfle i'r gymuned, cyn-ddisgyblion a chyn-athrawon ddod at ei gilydd i ddathlu addysg Gymraeg ac i obeithio hefyd i godi statws yr ysgol yn y gymuned, a'r uchelgais yw bod niferoedd yn cynyddu."

Adroddiad Ifan Gwyn Davies.