Gwyn Howells: 'Angen gwneud mwy i hybu cynnyrch Cymru'

Mae Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, yn credu bod angen gwneud mwy i gynyddu'r gwerthiant o gynnyrch Cymreig yn lleol ar ôl Brexit.

Ond mynnodd na allai hynny ddigwydd dros nos, a bod hi'n angenrheidiol bod yna gytundeb rhwng y DU a'r UE.

"Mae'n rhaid i ni gofio bod traean o'n holl gig oen ni yn mynd i'r cyfandir," meddai. "Mae'n anodd dirnad sefyllfa lle nad oes synnwyr cyffredin yn dod i'r fei rhwng nawr a mis Mawrth.

"Mae 'na reidrwydd ar i'r gwleidyddion ddod i gytundeb - neu fydd na broblemau nid yn unig yn y diwydiant amaeth ond drwy'r economi wledig hefyd."