Cyflwyno Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru
Mae Adam Price wedi cael ei gyflwyno fel arweinydd newydd Plaid Cymru mewn seremoni yng ngwesty Novotel yng Nghaerdydd.
Cafodd yr etholiad ei alw yn dilyn penderfyniad Adam Price a Rhun ap Iorwerth i herio Leanne Wood am y swydd ym mis Gorffennaf.
Aeth y cyfrif i'r ail rownd gan nad oedd yr un o'r ymgeiswyr wedi ennill 50% neu'n fwy o'r bleidlais.
Enillodd Mr Price - Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - gyda 3,481 o bleidleisiau wedi'r ail rownd, gyda Mr ap Iorwerth yn ail â 1,961.