Gorsedd y Beirdd: 'Rhai pethau wedi dyddio'
Wrth iddo baratoi i arwain Gorsedd y Beirdd am y tair blynedd nesaf, mae'r darpar Archdderwydd Myrddin ap Dafydd wedi holi ydi hi'n bryd iddi gael ei diwygio.
Mewn cyfweliad ar raglen Manylu BBC Radio Cymru mae Mr ap Dafydd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd yr Orsedd sy'n cynrychioli traddodiad sy'n mynd yn ôl dair mil o flynyddoedd.
Ond mae Myrddin ap Dafydd yn dweud bod yr Eisteddfod wedi moderneiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn awgrymu ei bod hi'n bryd i'r Orsedd foderneiddio hefyd.
Mae'r ddau yn sefydliadau ar wahân, gyda'r Orsedd yn gyfrifol am brif seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol - y Coroni, y Cadeirio a'r Fedal Ryddiaith.