'Lwcus' i beidio bod yn anabl wedi anaf rygbi

Mae chwaraewr rygbi gafodd lawdriniaeth frys ar ei gefn wedi anaf yn ystod gêm yn dweud ei fod wedi'i synnu gan y gefnogaeth y mae wedi'i dderbyn.

Anafodd Mathew Parry, 34 oed, ei wddf wrth chwarae i dîm Pwllheli yn erbyn Bethesda fis diwethaf.

Eisoes mae hyd at £6,500 wedi ei gyfrannu tuag at ymgyrch i godi arian.