Pont newydd dros Y Fenai: Yr ymateb yn lleol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pa opsiwn maen nhw'n ei ffafrio ar gyfer trydydd llwybr ar draws Afon Menai.

Byddai'r llwybr porffor yn golygu pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia, a gwelliannau i Gyffordd 8 ac 8A yr A55.

Roedd pedwar opsiwn, dolen allanol dan ystyriaeth fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus i'r posibilrwydd o greu trydydd llwybr.

Pe bai'r cynllun yn mynd yn ei flaen y gobaith gwreiddiol oedd dechrau ar y gwaith adeiladu erbyn diwedd 2020.

Aeth gohebwyr BBC Cymru i Borthaethwy i gasglu'r ymateb i'r cynlluniau yn lleol.