'Rwy'n gofalu am fy ngŵr yn ein cartref'

Mae Rita Davies yn gofalu am ei gŵr Mel yn eu cartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers 10 mlynedd ar ôl iddo gael strôc ddifrifol.

Mae hyn yn bosib gan ei bod hi'n un o'r bobl sy'n derbyn cymorth ar y cyd gan y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Yr arfer yma o gadw cleifion yn eu cartrefi sydd wrth wraidd gweledigaeth Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething wrth sefydlu'r Gronfa Trawsnewid.

Mae'r ddau newydd ddathlu eu priodas aur ac mae Rita'n dweud bod pethau'n gallu bod yn anodd weithiau ond gyda'r holl gefnogaeth mae'n cael gan y gwasanaethau a'r gymuned, ei bod yn ymdopi.

Darllenwch y stori'n llawn yma.