'Dwi ffaelu teithio ar drenau ar fy mhen fy hun'
Dim ond traean o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru sydd â mynediad anabl llawn, ac mae angen gwelliannau yn ôl dwy elusen.
Daw'r alwad wrth i ffigyrau ddangos nad oes modd i ddefnyddwyr cadair olwyn gyrraedd y platfform mewn bron i 25% o orsafoedd Cymru.
Mae Anabledd Cymru a Scope yn galw ar i Drafnidiaeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod pobl anabl yn gallu teithio'n annibynnol, ac yn pwyso am newid ar frys.
Mae'r cwmni wedi addo gweithredu gwelliannau pan fyddan nhw'n gwneud newidiadau i'r gwasanaeth o 2019 ymlaen.
Cat Dafydd o Landysul sy'n rhannu ei phrofiad o ddefnyddio rheilffyrdd Cymru fel person anabl.