Bywyd â phlentyn awtistig yn 'heriol ofnadw ar brydiau'

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwasanaeth cyflawn i awtistiaeth yng Nghymru, ac yn ceisio canfod y ffordd orau o fod o gymorth i deuluoedd.

Y nod yw darparu cefnogaeth debyg i'r hyn sy'n cael ei gynnig i bobl ag anableddau neu broblemau iechyd meddwl - gan gynnwys trefnu prif weithiwr a rheolwr gofal i oedolion ag awtistiaeth.

Dywed arweinydd y prosiect bod hi'n rhy gynnar mesur effaith tymor hir y gwasanaeth newydd ond mae 'na arwyddion cynnar ei fod yn "gwneud gwahaniaeth sylweddol."

Mae nifer o rieni yn dweud eu bod yn cael trafferth ymdopi gan fod eu plant yn "disgyn trwy'r bylchau" o fewn y system gofal fel ag y mae, ac yn gofyn am gael mwy o ddweud wrth ddyfeisio cynlluniau gofal ar eu cyfer.