AS o Gymru'n siarad y Wyddeleg yn siambr Tŷ'r Cyffredin
Fe wnaeth Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts, ddefnyddio'r Wyddeleg yn siambr Tŷ'r Cyffredin ddydd Mercher - y tro cyntaf i'r iaith gael ei siarad yno ers dros 100 mlynedd.
"Is cearta daonna iad cearta teanga agus tá cothrom na féinne tuilte ag lucht labhartha na Gaeilge," meddai'r aelod dros Ddwyfor Meirionnydd.
Yn y Gymraeg mae hynny'n cyfieithu i: "Hawliau dynol yw hawliau iaith, ac mae siaradwyr y Wyddeleg yn Iwerddon yn haeddu chwarae teg."
Aeth hi ymlaen i holi a fyddai Llywodraeth y DU yn pasio deddf iaith ar gyfer Gogledd Iwerddon pe na bai llywodraeth mewn lle yno o fewn chwe mis.
Y tro diwethaf i'r Wyddeleg gael ei chofnodi yn Nhŷ'r Cyffredin oedd gan AS Gorllewin Kerry, Thomas O'Donnell, yn 1901.