Brexit: Pryder myfyrwraig milfeddygaeth

Mae dyfodol trafodaethau Brexit a'r holl ansicrwydd yn achosi penbleth i rai myfyrwyr o'r Deyrnas Unedig sy'n astudio dramor.

Ymhlith y rhai sy'n pryderu mae Teleri James, merch fferm o Gilrhedyn yng ngogledd Sir Benfro sy'n astudio milfeddygaeth mewn prifysgol yn y Weriniaeth Siec.

Tydi hi ddim yn gwybod a fydd angen iddi gael fisa neu ddogfennau eraill fis Mawrth nesaf, pan ma disgwyl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Ms James ar ei phedwaredd flwyddyn yn astudio milfeddygaeth mewn prifysgol yn ninas Brno yn y Weriniaeth Siec.