Galw ar y Llywodraeth i wneud mwy i warchod rhywogaethau
Mae angen i Lywodraeth Cymru "wneud llawer mwy" i warchod rhywogaethau bywyd gwyllt, yn ôl WWF Cymru.
Mewn adroddiad sy'n edrych ar batrymau'n fyd eang, mae'r elusen yn dweud bod y bygythiadau i fywyd gwyllt a chynefinoedd yn cael eu hadlewyrchu yma hefyd.
Mae un allan o 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn peryg o ddiflannu'n llwyr, yn ôl rheolwr cyfathrebu'r elusen, Richard Nosworthy.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn flaengar wrth osod sylfeini i ddiogelu bioamrywiaeth a'i bod wedi cyhoeddi grantiau newydd fis diwethaf i gynorthwyo gyda'r gwaith o wrthdroi'r dirywiad mewn adnoddau naturiol.