Barbwyr yng ngogledd Cymru i dderbyn hyfforddiant iechyd meddwl
Fel rhan o weithgareddau i nodi diwrnod rhyngwladol y dynion ddydd Llun, mae na gynllun ar droed yn y gogledd i helpu barbwyr i roi cymorth i gwsmeriaid sy'n trafod iechyd meddwl.
Hunanladdiad ydi achos marwolaethau'r rhan fwyaf o ddynion dan 45 oed ar draws Prydain, ac mae gweithwyr iechyd yn credu bod dynion yn aml yn fwy tebygol o sôn am eu teimladau gyda'u barbwr na mynd at y meddyg.
Mae'r ymgyrch hyfforddi yn cael ei chefnogi gan ymgyrch Mi Fedraf, Awyr Las, Elusen y Gwasanaeth Iechyd, sy'n anelu at fynd i'r afael â stigma gan annog sgyrsiau mwy agored am iechyd meddwl.
Yn ôl Jason Parry, sy'n farbwr yng Nghaernarfon, mae'n rhaid i'r agwedd "stiff upper lip a chadw pob dim i mewn" newid.