Ffrae dros hyfforddi peilotiaid Saudi Arabia ar Ynys Môn

Mae Cymdeithas y Cymod wedi galw ar yr Awyrlu i roi'r gorau i hyfforddi peilotiaid o Saudi Arabia ar Ynys Môn.

Daw hynny wrth i'r DU a'r UDA chwilio eto am gadoediad yn Yemen, lle mae Saudi Arabia wedi bod â rhan amlwg yn ystod tair blynedd a hanner o ryfela.

Er bod presenoldeb y peilotiaid ym Môn yn destun gwarth i rai, mae eraill yn derbyn bod yr hyfforddi sy'n digwydd yn Y Fali yn angenrheidiol.

"Mae'r ffaith ein bod ni'n hyfforddi peilotiaid ac yn hyfforddi peirianwyr Saudi Arabia i drin y peiriannau lladd yna yn RAF Fali - mae'n anhygoel ein bod ni gymaint ynghlwm wrth y peth," meddai Anna Jane Evans o Gymdeithas y Cymod.

Ychwanegodd AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards fod angen "ailfeddwl" perthynas Prydain â Saudi Arabia "a'r strategaeth pan mae'n dod at y Dwyrain Canol".

Ond yn ôl Prydwen MacLean, perchennog gwesty cyfagos yn Llanfair-yn-Neubwll, "dim ond gwneud eu gwaith maen nhw".

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dweud bod 102 o beilotiaid o Saudi Arabia wedi'u hyfforddi yn y DU dros y ddegawd ddiwethaf, gyda 30 yn treulio cyfnod yn Y Fali.