Y Llywydd yn croesawu'r Senedd Ieuenctid

Dydd Mercher fe fydd aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru'n cael eu cyhoeddi yn y Senedd.

Roedd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones yn rhan o'r ymgyrch i sefydlu'r corff newydd.

Wrth groesawu dyfodiad y Senedd Ieuenctid, dywedodd y bydd barn yr aelodau newydd yn cael ei glywed ym Mae Caerdydd, ac y bydd ACau'n gwrando wrth ystyried eu gwaith yn y dyfodol.