'Dwyieithrwydd ddim yn anfantais i blant â Syndrom Down'

Ers dwy flynedd mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn casglu tystiolaeth gan 32 o deuluoedd, gan gynnwys 14 ble mae Cymraeg a Saesneg yn cael ei siarad.

Yn ôl Rebecca Ward, sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect, dyma'r ymchwil cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig.

"Mae'n dod o'r cysyniad bod plant efo anableddau datblygiadol, er enghraifft, awtistiaeth neu Syndrom Down... bod anawsterau gydag iaith yn mynd i gynyddu os maen nhw'n siarad dwy iaith," meddai.

"Felly os yw un iaith yn anodd yna byddai dwy iaith yn rhy anodd. Felly o'n ni mo'yn ymchwilio i'r datblygiad iaith a gweld sut oedd plant yn dysgu Cymraeg a Saesneg i gymharu â phlant gyda Syndrom Down oedd dim ond yn siarad Saesneg i weld os oedd hynna'n wir.

"Ac oedden ni'n gweld bod e ddim.

"Ni'n ffeindio bod y plant efo Syndrom Down sy'n ddwyieithog efo sgiliau Saesneg sydd cystal â phlant efo Syndrom Down sydd ddim ond yn siarad Saesneg," meddai.