'Rasys rolio casgenni yn debyg i Formula 1'

Daeth tua 2,000 o bobl i Ddinbych ar Ŵyl San Steffan i weld y traddodiad blynyddol o rolio casgenni ar y stryd fawr yno.

Roedd eleni yn nodi 60 mlynedd ers dechrau Pencampwriaeth Rolio Casgenni Cymru yn Ninbych.

Dywedodd Hywel Watkin, un o wirfoddolwyr y digwyddiad: "Weithiau mi gawn ni bobl mor bell â Seland Newydd, Awstralia, Canada [yn dod i weld a chystadlu] - a lot o bobl sydd adra ar gyfer y Dolig."

Yma mae'n egluro beth sy'n digwydd ar ddiwrnod y cystadlu.