Cadeirydd Cyngor: 'Trawsnewid beicio yng Nghaerdydd'

Wrth i gynllun llogi beiciau ehangu yng Nghaerdydd mae'r cwmni sy'n gyfrifol amdano yn dweud y bydd yn gwella'r ddarpariaeth i bobl sydd ag anableddau.

Yn ôl nextbike mi fydd beiciau wedi'u haddasu'n arbennig yn cael eu cyflwyno i'w casgliad o feiciau traddodiadol, a Chaerdydd fydd y ddinas gyntaf ym Mhrydain i wneud hynny.

Un sy'n gyson ar gefn ei feic yw arweinydd cyngor Caerdydd, Huw Thomas, sy'n dweud bod ganddyn nhw gynlluniau i greu rhwydweithiau o lonydd pwrpasol i feicwyr yn unig yn y ddinas.