Galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu celf Banksy

Mae perchennog y garej ym Mhort Talbot, lle dewisodd yr artist stryd Bansky i arddangos ei waith, yn galw am gymorth i sicrhau dyfodol y gwaith celf.

Ar hyn o bryd Ian Lewis, perchennog y garej, sy'n gyfrifol amdano ac am reoli'r cannoedd o ymwelwyr sy'n dod i'w weld gan fod y gwaith ar dir preifat.

Dros y Nadolig daeth yr actor Michael Sheen i'r adwy gan dalu am wasanaeth diogelwch ond gan na all hynny barhau mae Mr Lewis yn dweud y dylai'r gwaith fod yn eiddo cenedlaethol.

Mae Bethan Sayed, yr Aelod Cynulliad lleol a chadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, hefyd o'r farn bod angen cynllun i ddiogelu'r gwaith.