Galw am gosb lymach i droseddwyr cefn gwlad
Gyda beiciau cwad yn dal i gael eu dwyn yn eu niferoedd yng nghefn gwlad Cymru mae un ffermwr sydd wedi dioddef yn dweud bod angen i droseddwyr gael eu cosbi'n llymach.
Fe gafodd y lladron aeth a beic modur pedair-olwyn Terry Davies o Lanfynydd eu ffilmio'n gwneud hynny, cyn i ddau berson gael eu dal gan yr Heddlu.
Ond doedd dim digon o dystiolaeth i erlyn y ddau.
Yn ôl Undeb yr NFU, ma' dros 40 beic wedi'u dwyn yn Sir Gâr dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio pobl i sicrhau fod mesurau diogelwch mewn lle i ddiogelu ei beiciau cwad.
Mae'r llu'n ceisio mynd i'r afael â'r broblem, ac o fewn y flwyddyn ddiwethaf, mae Uned Plismona Gwledig wedi'i sefydlu.
Mae swyddogion yr heddlu yn annog ffermwyr i fod yn wyliadwrus o unrhyw un sy'n ymddwyn yn amheus ac i adrodd unrhyw bryderon wrth yr heddlu.
Dyma adroddiad Iwan Griffiths.