Nifer wedi diolch i Lowri Jones am rannu ei stori

Mae dynes a gollodd bump o fabanod yn y groth wedi sôn am yr ymateb dderbyniodd yn dilyn eitem am ar BBC Cymru Fyw am ei hanes yn cwrdd â'r milfeddyg wnaeth ei hysbrydoli i gael triniaeth addas er mwyn beichiogi'n llwyddiannus.

Ers siarad â Cymru Fyw ddechrau mis Rhagfyr, mae Lowri Jones o Langwm, Sir Conwy, wedi derbyn nifer o negeseuon gan ferched yn yr un sefyllfa, ac mae ei stori wedi dal sylw'r papurau cenedlaethol.

"Mae 'na gymaint o ferched wedi ymateb wedi i mi siarad am y peth ar y cyfryngau... mae merched dwi ddim hyd yn oed yn eu hadnabod wedi cysylltu i ddiolch i mi am rannu'r stori."