Ymgais ffermwyr Môn ac Eryri i daclo iechyd meddwl

Am y tro cyntaf erioed mae mudiad ffermwyr ifanc ym Môn ac Eryri yn trefnu noson ar y cyd i drafod problemau iechyd meddwl yng nghefn gwlad.

Mae ffermio yn un o'r diwydiannau sydd â'r gyfradd uchaf o hunanladdiadau, ac mae'r ffermwyr ifanc yn teimlo ei bod hi'n addas trafod y mater yn agored gyda phobl eraill yn y diwydiant.

Nod y noson ym Mhorthaethwy yw ceisio codi ymwybyddiaeth ac annog aelodau'r mudiad i ofyn am gymorth os ydyn nhw'n cael problemau.

Mae Rhys Richards yn aelod o Fudiad Ffermwyr Ifanc Môn ac mae o'n credu fod trafod pynciau fel iechyd meddwl yn hynod bwysig.