'Gangiau'n defnyddio pobl ifanc yn fwyfwy aml'
Mae nifer y bobl yn eu harddegau sy'n cael eu defnyddio gan y diwydiant cyffuriau yn ne Cymru yn cynyddu, ac yn ôl un heddwas fe fyddai'n "naïf" i gredu nad oes rhai o'r ardal yn gwneud.
Mae gangiau cyffuriau yn aml yn defnyddio pobl ifanc o du allan i'r ardal er mwyn gwerthu cyffuriau - trefn sy'n cael ei adnabod fel County Lines.
Yr wythnos ddiwethaf fe gafodd dyn ei garcharu am ddod â phlentyn amddifad o Lundain i werthu heroin a chocên yn Abertawe.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Johnson o Heddlu De Cymru fod mwy o blant yn cael eu defnyddio yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.