Mesur Iaith: 'Digon o bwerau yn barod'

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio bwrw 'mlaen gyda Deddf Iaith newydd - mesur fyddai wedi cael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r penderfyniad, gan ddweud y byddai'r ddeddf wedi lleihau mesurau sydd ar gael i warchod hawliau siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, i'r penderfyniad gael ei wneud ar ôl ystyried ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus ac ar ôl casglu tystiolaeth gan wahanol gyrff.

Mae hi hefyd o'r farn fod digon o bwerau dan y drefn bresennol i ddiogelu hawliau siaradwyr Cymraeg.