Mwy o weinidogion yn mynychu sesiynau cwnsela

Mae hi wedi dod i'r amlwg bod mwy a mwy o weinidogion yr efengyl a chlerigwyr yn mynd i sesiynau cwnsela, a hynny'n aml oherwydd natur eu gwaith.

Mae tua 70 yn mynychu sesiynau Cynnal sydd dan ofal yr elusen Stafell Fyw.

Mae'r gwasanaeth ar gael mewn pedair ardal ar hyn o bryd ond oherwydd y galw, y bwriad ydy ehangu i ardal Aberystwyth hefyd cyn hir.

Iola Wyn aeth i sgwrsio â gweinidog sydd wedi elwa o'r cyfle i rannu'r baich.