Cymunedau Ynys Môn yn gwrthwynebu fferm solar

Mae cymunedau yng ngorllewin Môn wedi dweud y byddan nhw'n brwydro i atal cynlluniau i osod degau o filoedd o baneli solar ar dir amaethyddol.

Mae cwmni o Lundain eisiau rhoi'r paneli rhwng pentrefi Bryngwran a Llanfihangel-yn-Nhowyn.

Yn ôl pobl leol byddai'r datblygiad yn dinistrio naws wledig yr ardal.