Perchennog dafad â phump oen: 'Maen nhw'n seis teidi!'
Mae ffermwr wedi sôn am ei sioc ar ôl i ddafad ar fferm yng Ngheredigion roi genedigaeth i bump oen - a rheiny i gyd yn fyw.
Cafodd yr ŵyn eu geni ar fferm Coedmore Hall yng Nghellan, ger Llanbedr Pont Steffan yn gynnar ddydd Mawrth.
Er mor anghyffredin ydy hi i gymaint o ŵyn oroesi'r un enedigaeth dywed y perchennog, Emily Jones taw dyma'r eildro i hyn ddigwydd ar y fferm.
Bu'n dweud mwy wrth Aled Scourfield.