Angen cynyddu'r nifer o lefydd hyfforddi

Byddai cynyddu'r nifer o lefydd dan hyfforddiant mewn adrannau oncolegol yn gam at ateb y galw a chynyddu'r nifer o ymgynghorwyr arbenigol, yn ôl un darpar-feddyg.

Dywedodd Rhiannon Evans, sydd dan hyfforddiant yn yr adran oncoleg yn Ysbyty Treforys, nad oes digon o swyddi dan hyfforddiant, er bod nifer o'r myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn dueddol o aros yno.

Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (CBR) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y diffyg ac ymateb drwy gyllido rhagor o lefydd hyfforddi yn y gwasanaeth iechyd i feddygon canser iau.

Er gwaethaf pryderon, dywedodd Dr Martin Rolles, arweinydd canser y CBR yng Nghymru, fod gan Gymru lawer i fod yn "falch ohono o ran ymchwil canser a chymhwyso technegau triniaeth newydd".