Diwedd cyfnod i deithwyr ar hyd Pont Cleddau
Mae'r drefn o gasglu tollau i groesi Pont Cleddau yn Sir Benfro wedi dod i ben ddydd Iau.
Bu'n rhaid i yrwyr dalu i groesi'r bont ers dros 40 o flynyddoedd - 75 ceiniog oedd y pris i gar groesi.
Fe fydd Llywodraeth Cymru'n rhoi £3m y flwyddyn i Gyngor Sir Penfro at dalu am gynnal a chadw'r bont.
Dywedodd Chris Tomos, aelod o gabinet y cyngor wrth ohebydd BBC Cymru yn y gorllewin Aled Scourfield y bydd y newid yn hwb economaidd i'r ardal.