Sut beth yw byw gyda chyflwr endometriosis?

Mae'r diffyg arbenigedd ar gyfer cyflwr mor gyffredin â endometriosis yn gwbl annerbyniol, yn ôl menyw sy'n byw gyda'r cyflwr.

Daw'r neges cyn cynnal gorymdaith arbennig yn Llandudno ddydd Sadwrn i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

Mae endometriosis yn gyflwr sy'n effeithio ar tua un o bob 10 menyw yn fyd-eang. Mae'n gallu achosi poen difrifol, anffrwythlondeb, blinder cronig yn ogystal â symptomau gwanychol eraill.

Llinos Blackwell, sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad, sy'n egluro sut beth yw byw gyda endometriosis.